P-05-719 – Cyllid gan Gynulliad Cymru ar gyfer Gwasanaethau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Harry Hayfield ar ôl casglu 21 llofnod.

Geiriad y ddeiseb

​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad i gyllido gwasanaethau hanfodol yng Nghymru nad ydynt yn cael cyllid gan y Llywodraeth (fel Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid).

Gwybodaeth ychwanegol

Yn 2015, achubodd Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub 9,763 o bobl o ddyfroedd y Deyrnas Unedig (gan gynnwys 1,029 o bobl yn nyfroedd Cymru). Cafodd y Gymdeithas Frenhinol er Atal Creulondeb i Anifeiliaid dros filiwn o alwadau i’w llinell gymorth ledled y DU yn 2015 a sicrhaodd bron i 1,800 o euogfarnau ar gyfer creulondeb i anifeiliaid. Fodd bynnag, nid yw’r sefydliadau hyn yn cael unrhyw gyllid gan Lywodraeth San Steffan er eu bod yn gorfodi cyfreithiau Llywodraeth San Steffan.

Credaf fod hyn yn anghywir yn 2016, ac y dylai’r sefydliadau datganoledig gyllido’r gwaith caled y mae’r sefydliadau hyn yn ei wneud dros bobl Cymru.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Ceredigion

·         Canolbarth a Gorllewin Cymru